N'âd y cenllysg i fy nghuro

(Tyred, Ysbryd Sancteiddiolaf.)
N'âd y cenllysg i fy nghuro -
  Grym fy mhleser, a fy chwant,
Ac i ỳru d'Ysbryd Sanctaidd,
  A'i awelon pur i bant:
Gwna 'nghydwybod ynwy'n danllwyth,
  Na ddioddefwyf ddim o'r bai,
Ag sy'n gwneuthur oriau 'mywyd
  Fel rhyw oes o edifarhau.

Tyred, Ysbryd Sancteiddiolaf,
  A glanhâ dy Dÿ dy hun,
Lladd y beiau yn fy natur
  O'r boreuddydd sydd ynglŷn;
Dŵg dy eiddo i maes o'r pydew,
  Minnau, ond cael myn'd yn rhydd,
A'th foliannaf tra f'o anadl
  Am fy ngwaredigol ddydd.
William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Eifionydd (J A LLoyd 1815-74)
Llanidloes (Hume ) {Llanidloes87D}

gwelir:
  Dyred Ysbryd sancteiddiolaf
  Mi âf trwy'r Iorddonen arw

(Come, Most Holy Spirit.)
Do not let the hail beat me -
  The force of my pleasure, and my lust,
And drive thy Holy Spirit,
  With his pure breezes away:
Make my conscience ignite into a conflagration,
  That I suffer not from the fault,
That makes the hours of my life
  Like some age of repentance.

Come, most Holy Spirit,
  And cleanse thine own house,
Kill the faults in my nature
  From the morn of day that cling;
Bring thine own out from the pit,
  And I, if I but go free,
Shall praise thee while ever there be breath
  For my deliverance day.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~